Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy

Rhannu Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy ar Facebook Rhannu Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy Ar Twitter Rhannu Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy Ar LinkedIn E-bost Sgwrsio am diogelwch ffyrdd Gwndy dolen

Crynodeb o'r cynllun

Bydd cynllun Diogelwch ar y Ffyrdd Gwndy yn mynd rhagddo ar ddechrau 2027. Mae'r cynllun yn cynnwys gwella’r briffordd i gefnogi diogelwch ar y ffyrdd a gwella llwybrau cerdded, olwynio a beicio yng Ngwndy o gwmpas ardal y B4245, o Heol yr Eglwys i ochr ddwyreiniol Magwyr gyda Gwndy.

Mae'r gwaith hwn yn cynnwys:

  • Gosod croesfan Twcan (sy’n cael ei rheoli drwy wthio botwm) wrth y fynedfa i gerddwyr i ardal dai Rhodfa Pankhurst/Fferm Rockfield.
  • Trosi'r droedffordd ar ochr ogleddol y B4245 i lwybr a rennir rhwng Rhodfa Pankhurst a The Elms
  • Culhau lleiniau’r gyffordd ac uwchraddio mannau croesi i gerddwyr ar Gelli Maes y Graig a Heol yr Eglwys
  • Newid cilfannau bysiau i arosfannau â llinellau
  • Ail-leoli a diweddaru cysgodfannau bysiau, ychwanegu byrddau gwybodaeth ‘amser real’
  • Ailosod wyneb newydd ar y briffordd

Mae'r dyluniad yn adeiladu ar gynllun hirdymor cynllun teithio llesol Gwndy i Rogiet, sef dyluniad y Trefniant Cyffredinol a gafodd gefnogaeth aruthrol y cyhoedd pan oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024. Er ei fod yn flaenoriaeth strategol i ni barhau i weithio ar lwybr Gwndy i Rogiet, mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) wedi llwyddo i sicrhau cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gan Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer gwelliannau i ardal fwyaf gorllewinol ‘Gwndy’. Mae hyn oherwydd y problemau a gydnabyddir o ran diogelwch cerddwyr a chyflymder cerbydau ar groesfannau ac arosfannau bysiau yn yr ardal adeiledig ar hyd y B4245. Mae'n rhaid i fyfyrwyr Ysgol Cil-y-coed groesi'r ffordd i'r safleoedd bysiau er mwyn teithio i’r ysgol ac yn ôl, ac mae cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn canolbwyntio ar wella llwybrau o fewn ardaloedd trefol a llwybrau i'r ysgol.

Mae'r dyluniad hwn yn cyd-fynd â Cham 1 cynllun Teithio Llesol Cyffordd Twnnel Hafren (Gwndy-Rogiet) fel rhan drefol y llwybr arfaethedig a rennir ac mae’n ymateb i ddigwyddiad yn gynharach yn 2025 lle cafodd plentyn ysgol ei daro gan gerbyd wrth groesi'r B4245 ar ôl dod oddi ar y bws ysgol yng Ngwndy. Yr ysgol uwchradd agosaf i fyfyrwyr o Wndy yw Cil-y-coed, a dyna pam mae’r llwybrau diogel mor berthnasol i’r safleoedd bysiau. Mae'r B4245 yng Ngwndy yn ffordd lydan sy’n cynnwys safleoedd bysiau sydd wedi eu mewnosod, felly’n creu amgylchedd nad yw’n ffafriol i deithio llesol na gallu gyrwyr i weld cerddwyr.

Cliciwch yma i weld llun o gynnig cynllun Diogelwch ar y ffordd Gwndy

Ardal cynllun Diogelwch ar y Ffyrdd Gwndy

Mae'r cynllun hwn yn ymwneud â'r rhan o'r B4245 sydd wedi ei liwio’n wyrdd.

Rhannwch eich barn

Rydym am ddeall beth sy’n bwysicaf i’r bobl sy’n byw, gweithio, teithio neu astudio yn yr ardal.

Cymerwch ychydig funudau i adolygu’r cynigion a dweud wrthym beth rydych chi’n ei feddwl. Bydd eich adborth yn helpu i lunio’r dyluniad terfynol cyn i’r gwaith ddechrau.

  • Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) am glywed eich barn am y groesfan arfaethedig a'r gwelliannau i’r briffordd i gefnogi llwybrau cerdded, olwynio a beicio yng Ngwndy ar y B4245, o Heol yr Eglwys i ochr ddwyreiniol y pentref.

    Disgrifiad o'r cynllun

    Gweler y diagramau a darllenwch y disgrifiad o'r cynllun arfaethedig yma: link to intro page

    • Gosod croesfan Twcan (sy’n cael ei rheoli drwy wthio botwm) wrth y fynedfa i gerddwyr i ardal dai Rhodfa Pankhurst/Rockfield Farm.
    • Trosi'r droedffordd ar ochr ogleddol y B4245 i greu llwybr a rennir rhwng Rhodfa Pankhurst a The Elms
    • Culhau lleiniau’r gyffordd ac uwchraddio mannau croesi i gerddwyr ar Rockfield Grove a Heol yr Eglwys
    • Newid cilfannau safleoedd bysiau a chreu arosfannau â llinellau 
    • Ail-leoli cysgodfannau bysiau a’u diweddaru, ac ychwanegu byrddau gwybodaeth ‘amser real’
    • Ailosod wyneb newydd ar y briffordd

    Mae'r arolwg hwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol am y ffordd rydych chi'n teithio fel arfer yn ardal yr astudiaeth cyn gofyn am eich profiadau wrth deithio yn ardal Gwndy ar y B4245.

    Mae eich barn ar y cynigion yn bwysig i ni a byddem yn croesawu eich mewnbwn yn yr arolwg hwn. A fyddech cystal ag annog eraill i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, er mwyn i ni sicrhau ein bod yn ymgynghori ag ystod mor eang â phosibl o bobl.

    Cwblhewch yr arolwg
    Rhannu Dweud eich dweud ar Facebook Rhannu Dweud eich dweud Ar Twitter Rhannu Dweud eich dweud Ar LinkedIn E-bost Dweud eich dweud dolen
Diweddaru: 26 Awst 2026, 04:57 PM