Sgwrsio am y Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Rhannu Sgwrsio am y Map Rhwydwaith Teithio Llesol ar Facebook Rhannu Sgwrsio am y Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ar Twitter Rhannu Sgwrsio am y Map Rhwydwaith Teithio Llesol Ar LinkedIn E-bost Sgwrsio am y Map Rhwydwaith Teithio Llesol dolen

To read the English version of this page, click here

Sgwrsio am gerdded, olwyno a seiclo yn Sir Fynwy!

Rydym yn diweddaru Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) Sir Fynwy – ac rydym am glywed gennych chi! P’un ai ydych chi’n cerdded, yn olwyno neu’n seiclo, bydd eich adborth yn ein helpu i wella llwybrau pob dydd ar draws ein cymunedau.

Beth yw’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol?

Mae’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl) yn dangos llwybrau presennol ac yn amlygu llwybrau â chynlluniau ar gyfer uwchraddio neu ddatblygiad dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’n rhan o ymdrech ledled Cymru i wneud teithiau lleol yn iachach ac yn fwy cynaliadwy, gyda chefnogaeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Pam ei fod yn cael ei ddiweddaru?

Cymeradwywyd map presennol Sir Fynwy yn 2022 - mae’n bryd nawr ei ddiweddaru i adlewyrchu cynnydd diweddar ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gyda’ch mewnbwn chi. Mae’n rhaid i bob cyngor yng Nghymru adolygu’n rheolaidd a gwella eu rhwydwaith llwybrau teithio llesol. Gall gwelliannau gynnwys creu llwybrau newydd neu uwchraddio rhai cyfredol. Er enghraifft, ail-wynebu llwybrau, lledu troedffyrdd, neu ychwanegu pethau fel cyrbiau isel neu balmentydd botymog i wella hygyrchedd.

Nod mapio llwybrau, y cyfredol a’r dyfodol, yw deall galw lleol, patrymau teithio ac ‘atynnwyr teithiau’ (ysgolion, mannau cyflogaeth ac ati) a gweithio i nodi, gwella neu weithredu rhwydwaith o lwybrau a gaiff eu derbyn fel rhai teithio llesol. Dylai’r rhwydwaith ar gyfer cerdded fod yn fwy niferus na’r un ar gyfer seiclo. Gellir datblygu neu wella trwy’r cynllun llwybrau nad ydynt eto’n pasio archwiliad, fel rhan o gynlluniau eraill ar gyfer priffyrdd neu fel rhan o ddatblygiad. Mae llwybrau ar y MRhTLl yn cael blaenoriaeth yn ôl effaith strategol, blaenoriaethau ariannu, y gallu i’w cyflawni a blaenoriaeth uwchben llwybrau a rhaglenni eraill.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn

Pob blwyddyn, gall Cyngor Sir Fynwy wneud cais am gyllid i wella llwybrau ar y MRhTLl. Os nad yw llwybr ar y map, does dim modd darparu cyllid ar ei gyfer – felly mae eich barn yn helpu i sicrhau fod y llwybrau sydd o’r pwys mwyaf i chi’n cael eu cynnwys.

Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau sesiynau galw heibio yn fuan.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhedeg tan hanner nos ddydd Sul, 30 Awst 2026

Ynglŷn â’r map rhyngweithiol:

Gweler Map Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Fynwy drwy glicio ar y ddolen isod. Cliciwch ar unrhyw lwybr i gael gwybodaeth am y llwybr hwnnw, fel a yw ar gyfer cerdded, beicio neu'r ddau, ac unrhyw faterion cydnabyddedig. Os ydych chi am wneud sylw, gollyngwch bin yn y lleoliad rydych chi am wneud sylw arno. Defnyddiwch y blwch sylwadau i ychwanegu manylion am yr union leoliad a'ch sylwadau. Gallwch wneud sylwadau ar lwybr neu unrhyw ran o'r map. Rhesymau pam y gallech fod eisiau gwneud sylw:

  • Os ydych chi’n credu y dylai llwybr gael ei ddileu.
  • Os ydych chi’n credu y dylai fod yna lwybr ble nad oes un ar hyn o bryd.
  • Os ydych chi’n credu y gellid gwella’r llwybr.
  • Os ydych chi’n credu bod angen ailgyfeirio neu ddiwygio’r llwybr.

Os oes unrhyw gwestiynau, cymerwch olwg ar y Cwestiynau ac Ateb ar y tudalen hwn, os nad ydych yn gallu darganfod y wybodaeth rydych yn edrych amdano e-bostiwch activetravel@monmouthshire.gov.uk

Cwblhewch yr arolwg yma

Diweddaru: 27 Mai 2026, 11:57 AC